Review:
O ystyried cyfraniad y Prifardd Mererid Hopwood in llenyddiaeth, o farddoniaeth i nofelau, maen hawdd anghofio mai Nes Draw yw ei chyfrol unigol gyntaf o gerddi ar gyfer oedolion. Ond maen amlwg nad cyfrol gyntaf arbrofol gan fardd newydd yw hon; maen ddatganiad hyderus gan un o leisiau blaenllaw llenyddiaeth Gymraeg fodern. Or olwg gyntaf mae diwyg trawiadol y gyfrol yn hoelio sylw gyda chlawr glas ac arno ysgrifen wen. Yn anarferol, maer cerddi wedi eu hargraffu mewn inc glas, sydd yn chwarae ar y dyfyniad ar y clawr: yn y darn rhwng gwyn a du mae egin pob dychmygu. Nid oes cyflwyniad nac unrhyw eiriau diangen o gwbl ac mae pob gair yn ystyrlon. Gwelir yr un cynildeb trwyr gyfrol gyfan yn symlrwydd ymddangosiadol y cerddi ac yn yr iaith hamddenol, dwyllodrus o naturiol. Golyga hyn fod yr amrywiaeth eang o fesurau yn y gyfrol, or caeth ir rhydd, i gyd yn ymddangos yn hollol ddiymdrech. Ceir cerddi o bob math, o englynion a chywyddau cain am gariad, megis Alaw, i sonedau dychanol miniog fel honno am ymweliad NATO Chaerdydd a cherddi rhydd syn llifon rhwydd oddi ar y dudalen. Ac yn goron ar y cyfan mae ei hawdl fuddugol yn 2001, sef 'Dadeni'. Ond er gwaethar gwahaniaethau amlwg rhwng y cerddi, clywir llais unigrywr bardd ym mhob un, yn cellwair, yn cwestiynu ac weithiau yn condemnio. Mae pob cerdd yn cynnwys haenau o wahanol ystyron iw datgelun raddol. Gellir darllen y cerddi nifer o weithiau a gweld ystyron hollol wahanol bob tro, ac ou hystyried yng ngyd-destun y cerddi eraill yn y casgliad, maer ystyron yn newid eto. Yn yr amwysedd hwn mae swyn y cerddi gan eu bod yn datgelu mwy ou cyfrinachau gyda phob darlleniad, au symlrwydd yn agor yn bosibiliadau i ddychymyg y darllenydd gael chwarae syniadaur bardd. Meinir Williams Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
"About this title" may belong to another edition of this title.